logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Drosodd a Throsodd

Pennill 1
Rwy’n sefyll nawr ar gyrion
Popeth a wn i
Cysur wedi ‘ngadael
Rhaid i’m ei ollwng e’

Pennill 2
Mae rhyddid yn y disgyn
Rwy’n disgyn atat Ti
Fe ŵyr Duw fy llwybr
Hwyrach nad oes rhaid i mi

Corws
Rwy’n rhoi fy hun ar yr allor
Drosodd a throsodd
Drosodd a throsodd
O ofn i ffydd, rwyf yn ildio
Drosodd a throsodd
Drosodd a throsodd

Pennill 3
Ti’n cymryd fy nghwestiynau
Wrth ymaflyd ym mhob un
Yn f’arwain yn d’amynedd
Yn fwy na’m hawydd i

Pennill 4
‘Does gen i mo’r atebion
Ymddiried yw fy rhan
Fy nghysur yw cael gwybod
(Dy) fod yma gyda mi

Corws

Point (X2)
Mae ennill mawr
Yn y gadael fynd
Ac rwy’n ildio nawr
Ti sydd wrth y llyw
Rwyf yn cael byw
Wrth i’m ildio nawr
Ac rwy’n ildio nawr
I dy gariad Di

Corws (X2)

Drosodd a Throsodd
Over and Over (Brandon Michael Sharp, Kyle Smith, Lauren Smith a Sean Curran)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2020 Brandon Michael Sharp; Capitol CMG Amplifier; Capitol CMG Paragon; sixsteps Songs; Sounds Of Jericho; All Essential Music; HBC Worship Music; Jingram Music Publishing
(Gwein. Capitol CMG Publishing, Essential Music Publishing LLC)
CCLI 7253942

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • April 16, 2025