Duw, fe’th folwn, ac addolwn,
Ti ein Iôr a thi ein Rhi;
Brenin yr angylion ydwyt,
Arglwydd, fe’th addolwn di.
Dengys dy holl greadigaeth
Dy ogoniant di-lyth;
Canant ‘Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd’
Hollalluog, Dduw dros byth!
Apostolion a phroffwydi,
Saint a roes y byd ar dân,
Llu merthyron aeth yn angof,
Unant oll mewn nefol gân;
Tra bo’r eglwys filwriaethus
Yn cyffesu’r Drindod bur,
Dad a Mab ac Ysbryd Sanctaidd –
Dduw’n tragwyddol obaith gwir.
Iesu, Frenin gogoneddus,
Grist, dragwyddol Fab y Tad,
Blentyn Mair, dy lwybr unig
Ydoedd anodd trwy dy wlad:
Uffern faeddir gan Dy groesbren,
Ac fe drechir pechod cas,
Egyr pyrth y nef yn llydan
I bechadur trwy Dy ras.
Ar ddeheulaw Duw, fe ferni,
Arglwydd Grist, y ddaear hon;
Telaist am ein rhyddid, Iesu,
Trugarha wrth bawb o’r bron:
Cod o’r llwch i fyd gogoniant
Bechaduriaid dynol-ryw;
Achub Di o’th uchel orsedd
Bawb o’th blant, O Arglwydd Dduw.
(Grym Mawl 2: 32)
Christopher Idle: God we praise you, Cyfieithiad Awdurdodedig: Hywel M. Griffiths