Duw mawr y rhyfeddodau maith,
rhyfeddol yw pob rhan o’th waith,
ond dwyfol ras, mwy rhyfedd yw
na’th holl weithredoedd o bob rhyw:
pa dduw sy’n maddau fel tydi
yn rhad ein holl bechodau ni?
O maddau’r holl gamweddau mawr
ac arbed euog lwch y llawr;
tydi yn unig fedd yr hawl
ac ni chaiff arall ran o’r mawl:
pa dduw sy’n maddau fel tydi
yn rhad ein holl bechodau ni?
O boed i’th ras anfeidrol, gwiw
a gwyrth dy gariad mawr, O Dduw,
orlenwi’r ddaear faith â’th glod
hyd nefoedd, tra bo’r byd yn bod:
pa dduw sy’n maddau fel tydi
yn rhad ein holl bechodau ni?
SAMUEL DAVIES, 1723-61 (Great God of wonders, all thy ways) cyf. J. R. JONES, 1765-1822
(Caneuon Ffydd 216)
PowerPoint