Duw pob gras a Duw pob mawredd,
cadarn fo dy law o’n tu;
boed i’th Eglwys wir orfoledd
a grymuster oddi fry:
rho ddoethineb, rho wroldeb,
‘mlaen ni gerddwn oll yn hy.
Lluoedd Satan sydd yn ceisio
llwyr wanhau ein hegwan ffydd;
ofnau lawer sy’n ein blino,
o’n caethiwed rho ni’n rhydd:
rho ddoethineb, rho wroldeb,
nertha ni yn ôl y dydd.
Dringo i’r uchelion wnelom,
rhagom awn drwy rwystrau maith;
rhyddid gwiw i ddynion drwom
fyddo’n goron ar ein gwaith:
rho ddoethineb, rho wroldeb
inni beunydd ar ein taith.
H. E. FOSDICK, 1878-1969 (God of grace and God of glory), cyf. D. B. JONES, 1889-1971
(Caneuon Ffydd 818)
PowerPoint