Duw, teyrnasa ar y ddaear
o’r gorllewin pell i’r de;
cymer feddiant o’r ardaloedd
pellaf, t’wyllaf is y ne’;
Haul Cyfiawnder,
llanw’r ddaear fawr â’th ras.
Taened gweinidogion bywyd
iachawdwriaeth Iesu ar led;
cluded moroedd addewidion
drosodd draw i’r rhai di-gred;
aed Efengyl
ar adenydd dwyfol wynt.
Doed preswylwyr yr anialwch,
doed trigolion bro a bryn,
doed y rhai sydd ar y cefnfor
i garu’r iachawdwriaeth hyn
nes bod atsain
moliant yn amgylchu’r byd.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 246; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 470)
PowerPoint