Pennill 1
Fe welsom rym dy fraich,
Dduw’r rhyfeddodau
Heb ball ar dy nerth;
Y gwyrthiau wnest o’r blaen,
fe welwn eto
yn helaethach fyth.
Cyn-gytgan
Ti’n sy’n chwalu’n llwyr holl furiau’r gell
a symud pob un bryn;
D’oes dim tu hwnt i ti;
Yn ein codi ni o ddyfnder bedd –
yn achub pob un ddaw
D’oes dim tu hwnt i ti
Cytgan
O’r dywyll nos,
dy oleuni ddaw,
dy oleuni ddaw
O! Dduw’r diwygiadau;
Fy ngobaith gwyd,
fe goncrwyd angau’n llwyr, buddugoliaeth sydd
O! Dduw’r diwygiadau.
Pennill 2
Mewn buddugoliaeth lawn
rwyt nawr yn eistedd
am byth ar orsedd nef;
Am hyn, nid ofnaf mwy
yr hyn orchfygaist
fe ymddiriedaf i.
Pont
Tyrd, dihuna dy bobl,
tyrd, dihuna dy ddinas,
O! Dduw’r diwygiadau,
arllwys nawr, arllwys nawr,
Rwyt yn dymchwel y cestyll,
mae’r cadwynau ar lawr
O! Dduw’r diwygiadau,
arllwys nawr, arllwys nawr.
Interliwd
O! O! Dduw’r diwygiadau
Duw’r Diwygiadau
God Of Revival (Brian Johnson/Phil Wickham)
Cyfieithiad awdurdodedig Meirion Morris a Megan Morris
© 2019 Phil Wickham Music (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y Du/Eire gan Song Solutions www.songsolutions.org)) Simply Global Songs (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein. yn y Du/Eire gan Song Solutions www.songsolutions.org)) Bethel Music Publishing (Gwein. gan Song Solutions)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint