Arglwydd clyw fy ngweddi,
’Dwi yma i d’addoli,
’Dwi yma i glodfori,
Dy enw sanctaidd di.
Mae ’na bŵer yn dy enw,
Mae dy ysbryd yn fy ngalw,
I droedio’n ddyfnach mewn i’r llanw
O dy gariad di.
Arglwydd rwyt yn ffyddlon
Nei di byth fy ngadael i.
Arglwydd cri fy nghalon
Yw i foli d’enw di.
Iesu Grist yw’r enw
Fyddwn ni’n ei godi fry.
Mae bywyd nawr i’r meirw
Wrth alw ar dy enw di.
Yn dy enw di,
Mae’n bywyd ni,
Dy enw di,
Iesu Grist.
Yn dy enw di,
Mae’n gobaith ni,
Dy enw di,
Iesu Grist.
Yn dy enw di,
Mae’n bywyd ni,
Dy enw di,
Iesu Grist.
Yn dy enw di,
Dy enw di,
Dy enw di.
© Meilyr Geraint 2017 , Noiz Ministries
cordiau gitâr PowerPoint MP3