Dy garu di, O Dduw,
dy garu di,
yw ‘ngweddi tra bwyf byw,
dy garu di;
daearol yw fy mryd:
O dyro nerth o hyd,
a mwy o ras o hyd
i’th garu di.
Fy olaf weddi wan
fo atat ti,
am gael fy nwyn i’r lan
i’th gartref di;
pan fwyf yn gado’r byd,
O dal fi’n gryf o hyd
i’th garu di o hyd,
i’th garu di.
WATCYN WYN 1844-1905
(Caneuon Ffydd 761)
PowerPoint