logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dy glwyfau yw fy rhan

Dy glwyfau yw fy rhan,
Fy nhirion Iesu da;
Y rhain yw nerth fy enaid gwan,
Y rhain a’m llwyr iachâ:
Er saled yw fy nrych,
Er tloted wyf yn awr,
Fy llenwi gaf â llawnder Duw,
A’m gweled fel y wawr.

Mi brofais Dduw yn dda,
Fy nhirion raslon Dad,
Yn maddau im fy meiau mawr
Yn rhwydd o’i gariad rhad:
Fe’m seliodd i mewn hedd –
On’d rhyfedd yw ei ras?
Fe’m bwydodd i â’r manna pur
Mewn gwledd o hyfryd flas.

Cyfiawnder marwol glwyf,
A haeddiant dwyfol loes,
Y pris, y gwerth, yr aberth drud
A dalwyd ar y Groes,
A gliria ‘meiau’n llwyr,
A’m gylch yn hyfryd lân;
Ac nid oes arall dan y nef
A’m nertha i fynd ymlaen.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 26)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 23, 2015