logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyfroedd Bywiol

Pennill 1
S’gen ti syched, s’gen ti angen?
Tyrd ac yfa’r dyfroedd bywiol
Wedi’th dorri? Mae tangnefedd
I ti wrth y dyfroedd bywiol.

Pennill 2
Crist sy’n galw; mae adfywiad
nawr wrth groes y dyfroedd bywiol.
Ildia’th fywyd, aeth d’orffennol;
coda yn y dyfroedd bywiol.

Corws
Y mae afon tosturi a gras yn llifo nawr,
(yn) dwyn llawenydd i ddinas ein Duw.
Y mae’n gobaith yn siŵr, nid oes ofn yma nawr;
clod i Iôr y dyfroedd bywiol.

Pennill 3
(Yr) Ysbryd yn symud, tosturi’n golchi, Iechyd sy’n y dyfroedd bywiol.
Arwain ninnau at dy lannau;
Bywyd sy’n y dyfroedd bywiol

Corws

Pennill 4
S’gen ti syched, s’gen ti angen?
Tyrd ac yfa’r dyfroedd bywiol
Mawr, di-derfyn ei faddeuant;
Crist, ef yw ein dyfroedd bywiol.

Corws Olaf

Dyfroedd Bywiol
Living Waters (Ed Cash a Kristyn Getty)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2016 Capitol CMG Paragon (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Getty Music Publishing (Gwein. gan Music Services, Inc.)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021