logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Dyledwr i ras ydwyf fi

Dyledwr i ras ydwyf fi,
Am ras cyfamodol mae ‘nghân;
 gwisg dy gyfiawnder o’m cylch
Nid ofnaf fi ddyfod o’th flaen;
Mae dychryn y gyfraith a Duw
Yn methu fy nghyffwrdd yn wir:
Mae gwaed ac ufudd-dod fy Nghrist
Yn cuddio fy meiau yn glir.

Y gwaith a ddechreuodd Ei ras,
Ei fraich a’i cyflawna’n ddi-oed;
Amen ei addewid sydd siwr,
Hyd yma ni fethodd erioed;
Ni all pethau fydd nac y sydd,
Na’r holl bethau fry neu islaw,
Wneud iddo o’i fwriad droi’n ôl,
Na thynnu fy enaid o’i law.

Mae f’enw ar gledr Ei law,
Nid byth y’i dileir tra bydd byw;
Mewn nodau parhaol Ei ras
Fe’i seliwyd ar galon fy Nuw;
Parhaf hyd y diwedd, mi wn,
Cyn sicred â’r ernes roes Ef;
Mwy llawen, ond nid yn fwy saff
Yw hyfryd ysbrydoedd y nef.

A.M.Toplady: A debtor to mercy alone, Cyfieithwyd: Dafydd M Job

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 9, 2015