Dyma babell y cyfarfod,
dyma gymod yn y gwaed,
dyma noddfa i lofruddion,
dyma i gleifion feddyg rhad;
dyma fan yn ymyl Duwdod
i bechadur wneud ei nyth,
a chyfiawnder pur y nefoedd
yn siriol wenu arno byth.
Pechadur aflan yw fy enw,
o ba rai y penna’n fyw;
rhyfeddaf fyth, fe drefnwyd pabell
im gael yn dawel gwrdd â Duw:
yno mae, yn llond ei gyfraith,
i’r troseddwyr yn rhoi gwledd;
Duw a dyn yn gweiddi, “Digon”
yn yr Iesu, ‘r aberth hedd.
Myfi anturiaf yno’n eon,
teyrnwialen aur sydd yn ei law
wedi ei hestyn at bechadur,
llwyr dderbynnir pawb a ddaw;
af ymlaen dan weiddi, “Pechais”
af a syrthiaf wrth ei draed,
am faddeuant, am fy ngolchi,
am fy nghannu yn ei waed.
ANN GRIFFITHS, 1776-1805
(Caneuon Ffydd 338)
PowerPoint