Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr,
Cymer fi i’th was’naethu di.
Dyma fi, rhoddaf fy hun yn llwyr,
Cymer fi i’th was’naethu di.
Cynhaeaf mawr sydd o’n cwmpas,
Ond o, y gweithwyr sydd mor brin.
Defnyddia fi yn awr yng ngwaith
dy Deyrnas
I alw eraill atat dy hun.
Mae’n bryd i ni alw Cymru eto
At Grist, drwy nerth ei Ysbryd Glân.
Mae Duw am weld ei bobl yn cyhoeddi
Ei neges a’i calonnau ar dân.
Oes blas ar halen y ddaear?
Oes golau i lewyrchu drwy’r tir?
Oes cariad yng nghalonnau ei ddisgyblion,
I ddangos fod ei neges yn wir?
(Here I am): Chris A. Bowater cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1981 Sovereign Lifestyle Music Ltd
(Grym Mawl 1: 49)
PowerPoint