Dyma Frawd a anwyd inni
erbyn c’ledi a phob clwy’;
ffyddlon ydyw, llawn tosturi,
haeddai ‘i gael ei foli’n fwy:
rhyddhawr caethion, Meddyg cleifion,
Ffordd i Seion union yw:
ffynnon loyw, Bywyd meirw,
arch i gadw dyn yw Duw.
?ANN GRIFFITHS, 1776-1805
(Caneuon Ffydd 335)
PowerPoint