Dyma gariad fel y moroedd,
tosturiaethau fel y lli:
T’wysog bywyd pur yn marw,
marw i brynu’n bywyd ni.
Pwy all beidio â chofio amdano?
Pwy all beidio â thraethu’i glod?
Dyma gariad nad â’n angof
tra bo nefoedd wen yn bod.
Ar Galfaria yr ymrwygodd
holl ffynhonnau’r dyfnder mawr,
torrodd holl argaeau’r nefoedd
oedd yn gyfan hyd yn awr:
gras a chariad megis dilyw
yn ymdywallt yma ‘nghyd,
a chyfiawnder pur a heddwch
yn cusanu euog fyd.
GWILYM HIRAETHOG, 1802-83
(Caneuon Ffydd 205, Grym Mawl 1: 50)
PowerPoint youtube