Dyma gyfarfod hyfryd iawn,
myfi yn llwm, a’r Iesu’n llawn;
myfi yn dlawd, heb feddu dim,
ac yntau’n rhoddi popeth im.
Ei ganmol bellach wnaf o hyd,
heb dewi mwy tra bwy’n y byd;
dechreuais gân a bery’n hwy
nag y ceir diwedd arni mwy.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 302)
PowerPoint