Gwelais satan balch yn syrthio
Gwelais dduwch byd yn ildio
Ond y wyrth na allaf i fyth ei esbonio
Fy enw lawr yn llyfr y nefoedd
Credu rwyf yn Nuw’r rhyfeddod
Nerth yr atgyfodiad ynof
Ond y wyrth na allaf i fyth ei esbonio
Fy enw lawr yn llyfr y nefoedd
Fy mawl sy’n eiddo’i ti byth bythoedd
A dyma yw fy stori o farw’n fyw
Dy ras newidiodd bopeth, fe dystiaf i
Trwy Iesu Grist y cyfiawn,
fe’m prynwyd i
A dyma yw fy stori
A dyma yw fy stori
Dewch ynghyd nawr bawb o’r teulu,
wedi’ch golchi’n lân a’ch prynu,
cenwch nawr i’r Tad, y Mab, a Duw yr Ysbryd.
Ein Duw gyflawna ei fwriadau
Ein Duw gyflawna ei fwriadau
Byw i weld Dy gynllun di
Pethau mwy sydd eto’i ddod!
O, credaf i
Dyma yw fy stori
My testimony ( Brandon Lake/Steven Furtick/Chris Brown/Tiffany Hammer)
Cyfieithiad awdurdodedig Cymraeg Steffan Morris/Rhys Llwyd
© Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC) / Bethel Music Publishing (Gwein. gan Song Solutions) / Brandon Lake Music (Gwein. gan Song Solutions) / Maverick City Publishing Worldwide (Gwein. gan Song Solutions)
CCLI # 7175610
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint