Dyma’r bore o lawenydd,
Bore’r garol ar y bryn,
Bore’r doethion a’r bugeiliaid
Ar eu taith, O fore gwyn!
Caned clychau
I gyhoeddi’r newydd da.
Dyma’r newydd gorfoleddus,
Newydd ei Nadolig Ef,
Gwawr yn torri, pawb yn moli
Ar eu ffordd i Fethlem dref.
Caned clychau
I gyhoeddi’r newydd da.
Dyma’r gobaith gwynfydedig,
Gobaith i bechadur tlawd,
Fod yr Iesu yn oes oesoedd
Iddo’n Geidwad ac yn frawd,
Caned clychau
I gyhoeddi’r newydd da.
W. Rhys Nicholas © Richard E. Huws. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.
PowerPoint