Dyma’r rhyfeddod mwyaf un
Dy fod, O! Dduw, yn Un yn Dri,
Yn Drindod Sanctaidd – rwyt yn Dad,
Yn Ysbryd ac yn Fab;
Ein Tad o’r nef, yr Ydwyf mawr,
Yn wir Fab Duw, yn Fab y Dyn,
Ac eto’n rhan o’r cynllun hwn –
Yr Ysbryd yma’n awr.
O! Dduw, fe garem weld ein ffydd
Fel fflam yn llosgi’n bur o’n mewn,
A ninnau’n d’ogoneddu di
Ym mhob un dim a wnawn.
Ac felly, Arglwydd, down yn llon
O’th flaen; Tydi, y Tri yn Un,
I’th foli’n Dad, Ysbryd a Mab
O derbyn ein mawrhad.
Ac felly, Arglwydd…
(Grym Mawl 2: 133)
Andy Piercy a Dave Clifton: This is the sweetest mystery
Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Timothy
Hawlfraint © 1996 Daybreak Music Ltd.