Pennill 1
Ger d’orsedd Di
Try’r cyfan oll
Mae d’ogoniant yn rhy fawr
Mor uchel wyt
Ond er ein mwyn
‘Sneb yn deilwng ond Ti
Corws
Eiddot Ti yw’r mawl
Eiddot Ti yw’r mawl
O dy flaen Di, plygwn ni
Ar dy orsedd fry
Fe’th ddyrchafwn Di
Cans teyrnasu wnei am byth
Pennill 2
Yr un a oedd
Ac sydd i ddod
Duw pob eiliad sydd
Goronwyd fry
Ddyrchafwyd nawr
‘Sneb yn sanctaidd ond Ti
Corws (X2)
Pont (X4)
‘Sblander a mawl
Pŵer a Nerth
Teilwng ydyw Oen ein Duw
Haleliwia
Corws (X2)
Pont (X2)
Diweddglo
Ger d’orsedd Di
Try’r cyfan oll
Mae d’ogoniant Di’n rhy fawr
Eiddot Ti
Yours (Glory and Praise) (Chris Brown, Mack Brock, Steven Furtick)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. Essential Music Publishing LLC)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint