Er gwaetha’r maen a’r gwylwyr
cyfododd Iesu’n fyw;
daeth yn ei law alluog
â phardwn dynol-ryw;
gwnaeth etifeddion uffern
yn etifeddion nef;
fy enaid byth na thawed
â chanu iddo ef.
Boed iddo’r holl ogoniant,
Iachawdwr mawr y byd;
mae’n rhaid i mi ei ganmol
pe byddai pawb yn fud;
mae’n medru cydymdeimlo
â gwaeledd llwch y llawr,
a charu heb gyfnewid
i dragwyddoldeb mawr.
MORGAN RHYS, 1716-79
(Caneuon Ffydd 552)
PowerPoint