Esgyn gyda’r lluoedd
fry i fynydd Duw,
tynnu tua’r nefoedd,
bywyd f’enaid yw.
Yfwn o ffynhonnau
gloywon ddyfroedd byw
wrth fynd dros y bryniau
tua mynydd Duw.
Dringwn fel ein tadau
dros y creigiau serth;
canwn megis hwythau,
“Awn o nerth i nerth.”
Pan wyf ar ddiffygio,
gweld y ffordd yn faith,
Duw sydd wedi addo
cymorth ar y daith.
Wedi’r holl dreialon,
wedi cario’r dydd,
cwrdd ar Fynydd Seion,
O mor felys fydd.
WATCYN WYN, 1844-1905
(Caneuon Ffydd 29)