Fe rodiai Iesu un prynhawn
yng Ngalilea mewn rhyw dref,
a’r mamau’n llu a ddug eu plant
yn eiddgar ato ef.
Ac yn ei freichiau cymerth hwy
a’i fendith roddodd i bob un;
“Gadewch i’r plant,” medd ef yn fwyn,
“ddod ataf fi fy hun.”
“Ac na waherddwch iddynt byth,
cans teyrnas nef sydd eiddynt hwy;
heb galon plentyn nid â neb
i mewn i’r deyrnas mwy.”
O Grist, gad im i’th deyrnas ddod,
rho nerth i’th ddilyn di o hyd,
a gwna fi’n ostyngedig iawn,
yn fwyn ac isel-fryd.
Dy ddwylo, Iesu, ar fy mhen
a’th nefol fendith rho i mi,
a thyfu wnelwyf ar dy wedd
drwy rin dy gariad di.
STOPFORD A. BROOKE, 1832-1916 cyf. G.WYNNE GRIFFITH, 1883-1967 © geiriau Cymraeg Nia Higginbotham. Defnyddir drwy ganiatâd.
PowerPoint