[Pennill 1]
Mae ’na addewid
sy’n mynd tu hwnt i’m methiant
Llef fain a distaw
dawela f’ofnau oll
[Pre-Corws]
Gall hyd ’n oed fy ngwallau mwyaf i
Droi’n wyrthiau sydd ar y gw-eill
Yn wyrthiau sydd ar y gwe-ill
[Corws]
Trwy dy glwyfau, rwy’n iach
Dan dy law, rwy’n gyflawn nawr
Fe leferaist ac mi wn mai felly mae
Yn y storm, rwyt yn hedd
A dy serch, nid yw’n fy ngollwng
Fe leferaist ac mi wn mai felly mae
[Pennill 2]
Ac ym mhob tymor
Mae’th fwriad Di yn aros
Ac ym mhob eiliad
Ti’n gweithio er fy lles
[Pre-Corws 2]
Iesu, y Graig na fetha byth
Dy deyrnas ni chaiff ei hysgwyd
Dy deyrnas ni chaiff ei hysgwyd
[Ail-adrodd y Corws]
[Pont]
Dy Air ’n y Nef sy’n ddiogel
Bydded fel hyn, Dad, O bydded fel hyn
D’eiddo yw’r deyrnas dragwyddol
D’wyllys a wneir, bydded fel hyn
[Corws Olaf]
Felly mae
It is so (Brian Johnson/Steven Furtick/Chris Brown/Tiffany Hammer)
Cyfieithiad awdurdodedig Cymraeg Arwel E Jones/Arfon Jones
© 2018 Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC) / Bethel Music Publishing (Gwein. gan Song Solutions)
CCLI # 7175560
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint