logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

F’enaid, gwêl i ben Calfaria

F’enaid, gwêl i ben Calfaria,
Draw’r rhyfeddod mwya’ ‘rioed;
Crëwr nefoedd wen yn marw,
Trenga’r ddraig o dan ei droed;
Clywaf lais yn awr, debygwn,
Egyr byrth y nefoedd fry;
F’enaid, cân, fe ddarfu ofnau,
Prynwyd nefoedd wen i mi.

Tyrd i fyny o’r anialwch,
Wedi aros yno’n hir,
Sypiau grawnwin mawrion aeddfed,
Sy’n dy aros yn y tir;
Brysia i ryfel, gwisg dy arfau,
Cymer galon, mentra ‘mlaen,
Ar dy ffordd, y mae’n dy arwain,
Gwmmwl niwl a cholofn dân.

William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 609)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • September 10, 2015