Fe’th addolaf (Fe’th addolaf)
Â’m calon ar dân. (â’m calon ar dân.)
Gwnaf, fe’th folaf (Gwnaf, fe’th folaf)
Â’m nerth i gyd. (nerth i gyd.)
Ac fe’th geisiaf (Ac fe’th geisiaf)
Bob cam o’r ffordd. (bob cam o’r ffordd.)
Fe’th ddilynaf (Fe’th ddilynaf)
Heb droi yn ôl (heb droi ‘nôl)
Dof o’th flaen di i’th addoli,
Derbyn fawl fy nghalon i.
Ti yn unig sydd yn deilwng;
Ti yn unig biau’r mawl i gyd.
Fe ymgrymaf, (Fe ymgrymaf,)
Y brenin wyt ti. (Y brenin wyt ti.)
Fe’th wasnaethaf, (Fe’th wasnaethaf,)
Rhof y cwbl i ti. (Rhof y cwbl i ti.)
Ac fe syllaf (Ac fe syllaf)
Ar d’orsedd fy Nuw. (Ar d’orsedd fy Nuw.)
Ymddiriedaf (Ymddiriedaf)
Canys trwot caf fyw. (Canys trwot caf fyw.)
I will worship: David Ruis, Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
© 1993 Shade Tree Music/Maranatha! Music. Gweinyddir gan CopyCare
(Grym Mawl 2: 67)
PowerPoint youtube