Pennill 1
Roeddwn i yn siwr
Y byddet wedi dod
I sychu’n dagrau ni
a dod i’n hachub ni
Ond eto fyth, rwy’n dweud “Amen”
Ac mae’n glawio
Rhag-gorws
Yn rhu y daran fawr
Y mae dy lais yn sibrwd
Drwy y glaw
“Rwyf yma”
Wrth i’th drugaredd ddod
Rwy’n codi’m llaw
A moli’r Duw sy’n rhoi
A chymryd nôl
Corws
Fe’th folaf yn y storm
A chodi’m dwylo i
Rwyt Ti yr hyn yr wyt
Lle bynnag fyddaf i
Ac mae f’oll ddagrau i
Ar gadw yn dy law
Rwyt gyda mi o hyd
Ac er fy nghalon frau
Fe’th folaf yn y storm
Pennill 2
Rwyf yn cofio’n iawn
I’m faglu yn y gwynt
Fe glywaist Ti fy nghri
A’m codi ar fy nhraed
Mae’n nerth i bron â mynd
Sut fedra’ i barhau
Heb im dy gael Di
Rhag-gorws
Corws
Pont
Os edrych wnaf i’r bryniau fry
O ble y daw fy help
Daw hwnnw gan yr Iôr
Yr un wnaeth y ddaear a’r nef
Corws
Fe’th folaf yn y storm
Praise you in this storm (Bernie Herms a Mark Hall)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2005 BanaHama Tunes (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein yn y DU/Iwerddon gan Song Solutions www.songsolutions.org))
Curb Word Music (Gwein. gan / Small Stone Media BV, Holland (Gwein yn y DU/Iwerddon gan Song Solutions www.songsolutions.org))
© 2005 a’r cyfieithiad hwn © 2021 Be Essential Songs (BMI) / My Refuge Music (BMI) / Curb Word Music (ASCAP). Cedwir pob hawl. Defnyddir trwy ganiatâd.
CCLI # 7175564
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint