Ffarwel bellach hen bleserau,
Dwyllodd f’ysbryd fil o weithiau,
‘N awr ‘r wyf wedi canfod gwynfyd
Nad oes ynddo radd o ofid.
Mi ges berl o’r gwerthfawroca’,
Nef a daear fyth nis prisia;
Crist yw ‘nhrysor, – dyna’i sylwedd,
Nef y nefoedd yn y diwedd.
Fe ddangosodd imi’n olau
Fod fy mhechod wedi’i faddau,
A bod imi nerth i goncro
Pob rhyw elyn sy’n fy mlino.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 643)