logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ffyddlon nawr

Pennill 1
Rwyf yn dal yn dynn mewn ffydd
Gwn y byddi’n agor ffordd
Dwi’m bob tro yn medru dallt
(a) dim bob tro yn medru gweld
Ond rwyf yn credu
Yr wyf yn credu

Corws
(Ti’n) symud bryniau mawr
A thynnu cewri lawr
Ti’n ysgwyd muriau’r gell
Trwy ganeuon mawl
Rwyf yn siarad â’m hofn
(a) gwneud f’amheuon yn ddim
Buost ‘n ffyddlon gynt
Byddi’n ffyddlon nawr

Pennill 2
Rwyf yn sefyll ar Dy Air
(a) galw’r nefoedd yma nawr
Fe frwydri’m holl elynion i
Dy fuddugoliaeth ddaw i mi
ac fe gredaf
O ie, fe gredaf

Corws

Pont (X2)
Ac fe wn i y gwn na fethaist byth
Ac fe wn i y gwn na fethi byth

Corws

Ffyddlon nawr
Faithful now (Eddie Hoagland | Hank Bentley | Jonathan Smith | Mia Fieldes)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Capitol CMG Amplifier (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
Every Square Inch (Gwein. gan Capitol CMG Publishing)
All Essential Music Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Be Essential Songs (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
HBC Worship Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Hickory Bill Doc (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Jingram Music Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
So Essential Tunes (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Upside Down Under (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
CCLI # 7194068

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • May 10, 2023