Pennill 1
Arglwydd Hollalluog
Mae dy holl eiriau’n wir
Â’th gariad byth ni fetha
Rwy’n saff pan rua’r môr
Ie, rwy’n saff pan rua’r môr
Cytgan
Fy angor tragwyddol
Fy nghysgod tra yn y storm
Ti yw ‘Ngwaredwr, dwyt byth yn pallu
(Ie) Ti yw’r Graig lle safaf
Pennill 2
Yma yng nghanol brwydr
O flaen y tonnau gwyllt
Rwyt Ti’n fwy nag abl
Nerth dy law all f’achub i
Gwn mai nerth dy law all f’achub i
Cytgan
Fy angor tragwyddol
Fy nghysgod tra yn y storm
Ti yw ‘Ngwaredwr, dwyt byth yn pallu
(Ie) Ti yw’r Graig lle safaf
Egwyl
Ie, Ti yw’r Graig lle safwn ni
Pont
Rwy’n dal Ynot Ti a Ti’n dal ynof fi
Iesu, rwy’n dal ynot Ti
A ti’n dal ynof fi
O Iesu, rwy’n dal ynot Ti
A ti’n dal ynof fi
Fy Iesu, rwy’n dal ynot Ti’n drag-wyddol
A ti’n dal ynof fi
Cytgan (X2)
Fy angor tragwyddol
Fy nghysgod tra yn y storm
Ti yw ‘Ngwaredwr, dwyt byth yn pallu
(Ie) Ti yw’r Graig lle safaf
Fy Angor
My Anchor (Christy Nockels a Jason Ingram)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2014 Open Hands Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
So Essential Tunes (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
sixsteps Music (Gwein. gan Integrity Music)
Sweater Weather Music (Gwein. gan Integrity Music)
worshiptogether.com songs (Gwein. gan Integrity Music)
CCLI 7197793
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint