Pennill 1
Roedd adeg pan yr aeth pob dim yn ddu
Ac angau’n hawlio’i fod yn ben
 Brenin Cariad wedi ildio’i hun
Hwn oedd y dydd tywyllaf un
Pennill 2
Ar groes a wnaethpwyd i bechadur
Fe wnaethpwyd iawn am bob un bai
Anadlodd yntau “Fe orffennwyd”
Ond nid fel hyn y byddai’n cloi
Rhag-gorws 1
Yna crynodd daear lawr
Gwnaed y llen yn ddwy
Clywyd rhu o’r Nef
Am yr aberth mawr
Corws 1
Fy Mrenin Iesu
Pob clod i Arglwydd daear a Nef
Fy Mrenin Iesu
Pob clod, Waredwr mawr y byd
Pennill 3
Y bore wedyn daeth goleuni clir
Yn sgleinio drwy’r tywyllwch du
O dragwyddoldeb, â phob dim ar ben
Daeth Brenin bywyd atom ni
Rhag-gorws 2
Mewn bedd tywyll oer
Cafodd Ef ei roi
Fe anadlodd Ef
A newidiwyd ni
Corws 1 (X2)
Fy Mrenin Iesu
Pob clod i Arglwydd daear a Nef
Fy Mrenin Iesu
Pob clod, Waredwr mawr y byd
Pont
Ymgrymed nawr pob glin o flaen y Brenin Mawr
Boed i bob un gyhoeddi “Ef yw’r Iôr”
O codwch lais ac unwch gyda chôr y Nefoedd
Sanctaidd
(Yn) canu Sanctaidd
Gwaeddwch Sanctaidd
(Yn) canu Sanctaidd
Corws 1
Fy Mrenin Iesu
Pob clod i Arglwydd daear a Nef
Fy Mrenin Iesu
Pob clod, Waredwr mawr y byd
Corws 2
Fy Mrenin Iesu
Fy Mrenin Iesu
Fy Mrenin Iesu
Fy Mrenin Iesu
Fy Mrenin Iesu
All Hail King Jesus (Jeremy Riddle, Peter Mattis, Ran Jackson a Steffany Gretzinger)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© 2017 Richmond Park Publishing; Bethel Music Publishing; Jeremy Riddle Music Designee
Essential Music Publishing LLC, Song Solutions
CCLI 7254218
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint