Pennill 1
Mae fy ngeiriau’n brin
Does gen i ddim mwy
O sut fedra i
ddweud fy niolch i?
Pennill 2
Gallwn ganu cân
Fel rwy’n aml wneud
(Ond) daw pob cân i ben
Dwyt ti byth yn gwneud
Corws
Ac fe folaf drachefn
Gan godi fy nwylo i’r nef
Y cyfan sydd gennyf yw haleliwia, haleliwia
Dio’m yn llawer o beth
I Frenin sy’n haeddu cael mwy
Ond dywed fy nghalon i haleliwia, haleliwia
Pennill 3
F’unig ateb i
F’unig arwydd nawr
Yw f’addoliad i
Gyda’m breichiau fry
Corws
Pont (X3)
F’enaid, tyrd nawr
A phaid bod yn swil o ddweud
Coda dy lais
Mae gennyt lew yn dy fynwes i ddweud
Coda a mola’r Iôr
Corws
Fy Niolch i
Gratitude (Benjamin Hastings, Brandon Lake a Dante Bowe)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
Hawlfraint © ac yn y cyfieithiad hwn SHOUT! Music Publishing Australia (Gwein. SHOUT! Music Publishing UK) /Bethel Music Publishing (Gwein. Song Solutions) / Bethel Worship Publishing (Gwein. Song Solutions) / Brandon Lake Music (Gwein. Song Solutions) / Maverick City Publishing (Gwein. Song Solutions) / Maverick City Publishing Worldwide (Gwein. Song Solutions)
Defnyddir trwy ganiatâd).
CCLI 7252288
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint