Gad in fod yn olau clir i’r cenhedloedd,
yn olau clir i holl bobloedd daear lawr
nes y gwelo’r byd ogoniant d’enw mawr,
O llewyrcha drwom ni.
Gad in ddod â gobaith d’Air i’r cenhedloedd,
y Gair sy’n fywyd i bobloedd daear lawr,
nes y gwypo’r byd fod achubiaeth ynot ti,
Gair maddeuant, drwom ni.
Gad in fod yn fywiol falm i’r cenhedloedd,
er dwyn iachâd i holl bobloedd daear lawr;
nes y profo’r byd o rym dy enw di,
llifed rhinwedd drwom ni.
Gad in ganu llawen gân i’r cenhedloedd,
ein cân o fawl i holl bobloedd daear lawr;
nes atseinia’r byd o glod i’th enw glân,
seinied moliant drwom ni.
Arglwydd, gad i’th deyrnas ddod i’r cenhedloedd,
d’ewyllys wneler drwy bobloedd daear lawr;
nes y gwelo’r byd mai ti sydd Arglwydd, Iôr,
doed dy deyrnas drwom ni,
doed dy deyrnas drwom ni,
doed dy deyrnas yn ein byd.
CHRIS CHRISTENSEN May we be a shining light to the nations
Cyfieithiad awdurdodedig: CASI JONES
Hawlfraint © 1986 Integrity’s Hosanna! Music
Gweinyddir gan Kingsway’s Thankyou Music. Dros y DG yn unig. Defnyddiwyd trwy ganiatâd.
(Caneuon Ffydd 282, Grym Mawl 1: 117)
PowerPoint