Galwad ddaw – clywch y gri,
Rhoddwch fawl (i’n) Harglwydd ni;
Lluoedd maith cenhedloedd byd,
Dathlwch oll waith Duw i gyd.
Telyn, salm ac utgorn clir –
Datgan maent addoliad gwir;
Coed a moroedd lawenhed
Talodd Crist ein pris â’i waed.
Cenwch gân fel un côr,
D’wedwch bawb beth wnaeth ein Iôr;
Seiniwch glod, molwch Ef,
Mae’n teyrnasu fry – ein Duw o’r nef.
O mor ddwfn yw’r cariad mawr
Ddaeth i’n byd o’r nef i lawr –
Duw y Mab. F’enaid clyw,
Atgyfododd, mae yn fyw!
Gorfoledda daear lawr,
Natur oll sy’n gân yn awr;
Daeth i’n plith i farnu’n iawn
A rhoddi gwir gyfiawnder llawn.
Graham Kendrick (Far and Near), cyf. Dafydd Timothy
©1996 Make Way Music
(Grym Mawl 2: 24)
PowerPoint