Mae’r Arglwydd ein Duw wedi siarad,
wedi galw ei bobl i ddod ynghyd,
Wrth i’r nef gyhoeddi ei gyfiawnder
mae ein Duw yn dod, yn ei holl ysblander.
Galwaf arnat Ti. Ti yw fy Nuw, Ti yw fy Nuw.
Does dim byd fedra’i roi o’r newydd i Ti,
ond galwaf i arnat Ti i fy achub i.
Mae’r Arglwydd ein Duw yn siarad â ni.
Dwi’m eisiau anwybyddu, methu d’eiriau Di.
Pa hawl sy’ gen i i weld dy gynllun?
Ond rwyt Ti’n galw fi fel fy Nhad llawn cariad.
Galwaf arnat Ti. Ti yw fy Nuw, Ti yw fy Nuw.
Does dim byd fedra’i roi o’r newydd i Ti,
ond galwaf i arnat Ti i fy achub i.
Galwaf arnat Ti. Ti yw fy Nuw, Ti yw fy Nuw.
Does dim byd fedra’i roi o’r newydd i Ti,
ond galwaf i arnat Ti i fy achub i.
Hawlfraint © 2010 Carys Hughes
PowerPoint PowerPoint lliw PDF MP3