Gariadlon Dduw, clodforwn di,
Diogel y’m dan d’adain gu,
Ti wêl bob cam o daith dy blant,
Ein gobaith ni.
Fe saif ein gobaith ynot ti
Rhoist dy hun i ni gael byw;
Do fe ddaethost lawr o’r nefoedd,
Buost farw i ni gael byw.
Diolch Iesu am ein harwain
Ein bendithio wyt bob dydd.
Ein gobaith ni, ein gobaith ni.
Weithiau mae’r ffordd i’w gweld yn hir
Ond yno ‘rwyt i esmwytho’r cur;
Pan wyf yn wan – dy law sy’n gryf –
Ein gobaith ni.
Di-symud yw’th ffyddlondeb di,
Atebi’n holl weddïau ni.
Haeddiannol wyt o’n parch, a’r bri,
Ein gobaith ni.
Fe saif ein gobaith…
Judy Bailey: You are a kind and loving God (You care for us)
Cyfieithiad Awdurdodedig: Natalie Drury Hawlfraint © 1996 Ice Music
(Grym Mawl 2: 158)
PowerPoint