Ger dy fron, yn dy gôl,
Cariad fy Nuw’n cyffwrdd pob rhan.
Closio’n nes, closio’n agos iawn.
Rwyt ti yno byth, pan nad wyf yn gweld.
Ger dy fron, yn dy gôl,
Dyma’r lle dw’i angen bod.
Ger dy fron, law yn llaw,
Clywaf ti’n dweud ‘Dwi’n deall wir’
Gyda thi, fy nghâr, fy ffrind.
Awchu’r amser hwn; dyheu na ddaw i ben.
Ger dy fron, yn dy gôl,
Dyma’r lle dw’i angen bod.
Tyn fi, Iesu, yn nes byth;
Tyn fi, Iesu, ‘nawr.
Tyn fi, Iesu, yn nes byth;
Tyn fi, Iesu, ‘nawr.
Dyma’r lle dw’i angen bod.
(Grym Mawl 2: 22)
Chris Bowater: Face to face, Cyfieithiad Awdurdodedig: Dafydd Hughes Pritchard
Hawlfraint © 1997 Sovereign Lifestyle Music