Gerbron fy Nuw a’i orsedd gref
Mae gennyf achos llawn di-lyth;
Yr Archoffeiriad mawr yw Ef
Sy’n byw i eiriol trosof byth;
Fe seliwyd f’enw ar ei law
Ac ar ei galon raslon wiw;
A gwn, tra saif fy Ngheidwad draw,
Na chaf fy ngwrthod gan fy Nuw.
Os Satan ddaw i’m bwrw i lawr
Gan feio ar fy nghalon ddu,
Edrychaf fry i weld yn nawr
Yr Un sy’n cuddio’m beiau lu;
Am i’r Di-euog fynd i’r groes
Caiff f’enaid euog ei ryddhau;
Duw’r Cyfiawn Un, ar sail y loes,
O’i weled Ef sy’n maddau ‘mai.
Gwelwch yr Oen gyfodwyd nawr –
Cyfiawnder perffaith i mi yw,
Yr YDWYF di-gyfnewid mawr,
Brenin gogoniant, grasol Dduw!
Yn un ag Ef, ni threngaf fi,
Â’i waed y prynwyd f’enaid drud;
Cuddiwyd fy mywyd ynddo fry,
Yng Nghrist, fy Nuw a Cheidwad byd.
C L De Chenez: Before the throne, cyfieithwydd: Dafydd M Job
PowerPoint