logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gobaith ar y Gorwel

Pennill 1
(Pan) mae’th galon di ar dorri’n llwyr
A dy ddwylo’n wag a’th ffydd yn mynd
Pan mae gweddi’n teimlo’n dda i ddim
A’r addewid nawr mor bell i ffwrdd

Corws
Coda dy wedd
Mae gobaith ar y gorwel
Edrych ar Grist
Ei deyrnas sydd yn cyrraedd
Rho ogoniant
Yn yr aros
A dal d’obaith di

Pennill 2
Rhwng y nawr a beth sydd eto’i ddod
Mae ‘na gân nad yw’n anghofio byth
Ni fydd calon frau yn mynd ar chwâl
Os yw’n ffiol sy’n rhoi mawl i Ti

Corws

Pont
Tyrd nawr, ymgryfha
Rho’th galon i gyd
Rho Iddo dy haleliwia a’th ffydd
Ymddiried drachefn
(Yn) ddwfn yn y nos
Tywallt dy haleliwia a gweld

Ti ddim wrth dy hun
Yn teithio ‘da’r saint
Yn canu eu haleliwia
I Dduw, ar ei orsedd Ef
Ef yw’n gobaith ni
(Yn) deilwng o’n moliant uchaf
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia
Haleliwia, Haleliwia, Haleliwia
Haleliwia, Haleliwia

Gobaith ar y Gorwel
Hope on the Horizon (Rich di Castiglione a Sam Bailey)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E Jones
© 2023 Capitol CMG Paragon; KXC Publishing (Gwein. Capitol CMG Publishing)
CCLI 7254491

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 12, 2025