Mae hon yn hen emyn – ond mae cerddoriaeth gyfoes wedi cael ei chyfansoddi ar ei chyfer – dilynwch y ddolen youtube ar waelod y dudalen.
Pennill 1
Un dydd gyda’r nefoedd yn orlawn o’i foliant,
Un diwrnod â phechod yn ddu fel y fall,
Iesu ddaeth atom, fe’i anwyd o forwyn,
I fyw yn ein plith, yn esiampl i mi,
Y Gair ddaeth yn gnawd a’r Goleuni’n amlygu ei ogoniant i ni.
Cytgan
Yn byw i fy ngharu, yn marw i’m hachub, mewn bedd
bu yn cario fy mhechod i ffwrdd,
Yn codi i’n cyfiawnhau, yn rhad a thragwyddol;
un diwrnod godidog
y bydd Ef yn dod,
Godidog ddydd.
Pennill 2
Un dydd fe’i arweiniwyd i fynydd Calfaria,
Un diwrnod, fe’i hoeliwyd i farw ar bren;
Gŵr oedd ofidus, cynefin â dolur, yn cario ein pechod, ‘Ngwaredwr yw Ef
Dwylo o gariad, nawr wedi hoelio ar bren drosof fi.
Cytgan
Yn byw i fy ngharu, yn marw i’m hachub, mewn bedd,
bu yn cario fy mhechod i ffwrdd
Yn codi i’n cyfiawnhau, yn rhad a thragwyddol;
un diwrnod godidog
y bydd Ef yn dod,
Godidog ddydd.
Pennill 3
Un dydd, nid oedd angau yn medru ei drechu,
Un diwrnod, symudwyd y garreg o’r bedd.
Ac yna fe gododd, fe ddaeth buddugoliaeth,
Nawr ‘di ddyrchafu, fy Arglwydd am byth.
Ni allodd angau, na’r bedd ei gaethiwo, fe gododd yn fyw.
Cytgan
Yn byw i fy ngharu, yn marw i’m hachub, mewn bedd
bu yn cario fy mhechod i ffwrdd
Yn codi i’n cyfiawnhau, yn rhad a thragwyddol;
un diwrnod godidog
y bydd Ef yn dod,
Godidog ddydd, Godidog ddydd.
Pont
Un dydd bydd utgorn yn seinio ei ddyfod,
Un dydd, bydd yr awyr yn ddisglair i’w glod,
Un dydd bendigaid yn dod â’m annwyl Waredwr Iesu i mi.
Cytgan
Yn byw i fy ngharu, yn marw i’m hachub, mewn bedd
bu yn cario fy mhechod i ffwrdd
Yn codi i’n cyfiawnhau, yn rhad a thragwyddol; un diwrnod godidog
y bydd Ef yn dod,
Godidog ddydd, Godidog ddydd, Godidog ddydd.
Cyfieithiad Cymraeg: Glorious day
Geiriau gan: John Wilbur Chapman (1859 – 1918)
Cyfieithiad Cymraeg gan: Arwel E.Jones