Golau a nerthol yw ei eiriau,
Melys fel y diliau mêl,
Cadarn fel y bryniau pwysig;
Angau Iesu yw eu sêl;
Y rhain a nertha ‘nhraed i gerdded
Dyrys anial ffordd ymlaen;
Y rhain a gynnal f’enaid egwan,
Yn y dŵr ac yn y tân.
Gwedd dy wyneb sy’n rhagori
Ar drysorau’r India draw;
Mae awelon pur dy gariad
Yn dwyn gwobor yn eu llaw;
Perffaith bleser heb ddim diwedd,
Perffaith gysur heb ddim trai,
Yn y stormydd mawr cynddeiriog,
Yw yn unig dy fwynhau.
William Williams (1717-1791)
(Llawlyfr Moliant Newydd: 628)