Gweithiwn gyda’n gilydd
Er mwyn gweld dy Deyrnas,
Nefoedd wen yn dod i’n byd.
Tegwch a chyfiawnder,
Chwyldro yr efengyl,
Gobaith gwir i bobloedd byd.
Mae y wawr yn torri,
Mae yn ddydd i foli,
Ysbryd Duw sy’n mynd ar led.
Profi hedd a rhyddid,
Profi gwir lawenydd,
Profi byd heb ofid mwy.
Gweld y cwbl, (Gweld y cwbl,)
Gweld y cwbl, (Gweld y cwbl,)
Gweld y cwbl, (Gweld y cwbl,)
Gweld y cwbl,
Pan ddaw’r Deyrnas lawn
Daw Iesu ‘nôl.
Pan ddaw’r Deyrnas lawn
Daw Iesu ‘nôl.
Pan ddaw’r Deyrnas lawn
Daw Iesu ‘nôl.
Pan ddaw’r Deyrnas lawn
Daw Iesu ‘nôl.
O! deled nawr dy Deyrnas di
A gwneler nawr D’ewyllys bur.
Ian Mizen ac Andy Pressdee: We must work together (we’ll see it all),
Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones
Hawlfraint © 1992 Brown Bear Music
(Grym Mawl 2: 141)
PowerPoint