Pennill 1
Gŵn Crist yn rhodd:
O’r fath gyfnewid gwiw!
Gwisgodd fy mai,
Dioddefodd ddicter Duw.
Yn Ei gyfiawnder pur
Ces gyfiawn ble!
Yng Nghrist rwy’n byw,
Bu farw yn fy lle.
Pennill 2
Gŵn Crist yn rhodd:
Pam ofni unrhyw nam?
Bodlonodd Hwn
Y gyfraith ar fy rhan.
Di-fai wyf nawr
Drwy’i gyfiawn weithred E’,
Achubwyd fi –
Dirprwyodd yn fy lle.
Cytgan
Cofleidiaf Grist,
Rhyfeddaf at y gost:
Gwrthodwyd Iesu,
Cefnodd Duw ar Dduw.
Fe’m prynodd i,
Nid eiddof fi fy myw.
Fy mawl a fydd
I’r Oen, fy mhopeth yw!
Pennill 3
Gŵn Crist yn rhodd:
Bodlonwyd ’wyllys Tad
Bu farw Iesu,
O ryfedd Aberth rad!
Yfodd y gosb
Am fai, “Gorffennwyd” medd!”
Talwyd y pris;
Cymodwyd daer a Nef!
Cytgan
Cofleidiaf Grist,
Rhyfeddaf at y gost:
Gwrthodwyd Iesu,
Cefnodd Duw ar Dduw.
Fe’m prynodd i,
Nid eiddof fi fy myw.
Fy mawl a fydd
I’r Oen, fy mhopeth yw!
Pennill 4
Gŵn Crist yn rhodd:
Yr ing na phrofwn ni!
Anwylyd Duw,
Collfarnwyd Ef, r’un cu.
Ef, yn fy lle
Felltithiwyd gan y Tad;
Minnau, fel aer,
Caf groeso’r Nefol wlad!
Cytgan
Cofleidiaf Grist,
Rhyfeddaf at y gost:
Gwrthodwyd Iesu,
Cefnodd Duw ar Dduw.
Fe’m prynodd i,
Nid eiddof fi fy myw.
Fy mawl a fydd
I’r Oen, fy mhopeth yw!
Gŵn Crist yn rhodd
His Robes For Mine (Chris Anderson, Greg Habegger)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
© 2008 Church Works Worship (ASCAP) Gwein. IntegratedRights.com)
Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.
PowerPoint