Gwn pa le mae’r cyfoeth gorau,
gwn pa le mae’r trysor mawr;
profais flas y bywyd newydd,
O fendigaid, fwynaf awr:
grym y cariad
a’m henillodd innau’n llwyr.
Gwn pwy yw yr hwn a’m carodd,
gwn pwy yw y rhoddwr rhad,
gwynfydedig Fab y nefoedd
ar wael lwch yn rhoi mawrhad;
O ryfeddod:
nerth ein Duw ym mherson dyn.
Gwn pa fodd y prynodd f’enaid,
gwn pa fodd y gwnaeth fi’n rhydd,
dwyn y penyd arno’i hunan,
marw drosof, cario’r dydd:
clod a moliant
fydd yn llanw ‘mywyd mwy.
W. RHYS NICHOLAS, 1914-96 © Richard E. Huws
(Caneuon Ffydd: 313)
PowerPoint