logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Gwychder môr a mynydd (Oen ein Duw)

Pennill 1
Gwychder môr a mynydd,
Holl fawredd cread Duw;
Gwawr yr haul wrth godi
Dwynna’n llafnau byw,
Ond y wyrth ryfeddol fwyaf
A welodd f’enaid i
Yw gwir Oen Duw ar Galfari.

Pennill 2
Tanbaid sêr sy’n disgyn
O alaethau’r gwagle pell,
Yr eigion sydd yn datgan
Am Wychder heb ei well,
Ond y wyrth ryfeddol fwyaf
A welodd f’enaid i
Yw gwir Oen Duw ar Galfari.

Cytgan
Gwêl yno Oen ein Duw
Sy’n dwyn ein pechod cas
Gwêl eto’i aberth perffaith Ef,
Gwêl glwyfau dyfnion gras
Ar draed a dwylo briw,
Wele Oen ein Duw ar Galfari.

Pennill 3
Y Nef sy’n estyn croeso
I’r oll sydd nawr ynghudd
Dy gariad fydd fy anthem –
Hyd dragwyddoldeb fydd,
A’r wyrth ryfeddol fythol
A wêl fy enaid i
Ydyw’r Oen a goncrodd Galfari.
Wele Oen ein Duw, ein gobaith ni.

Cytgan
Gwêl yno Oen ein Duw
Sy’n dwyn ein pechod cas;
Gwêl eto’i aberth perffaith Ef,
Gwêl glwyfau dyfnion gras
Ar draed a dwylo briw,
Wele Oen ein Duw ar Galfari.
Gwêl yno Oen ein Duw
Sy’n dwyn ein pechod cas;
Gwêl eto’i aberth perffaith Ef,
Gwêl glwyfau dyfnion gras
Ar draed a dwylo briw,
Wele Oen ein Duw ar Galfari.

Pont
Onid yw’n deilwng?
Onid yw’n deilwng?
Hyd byth yn deilwng
Yr Oen ga’dd ei ladd.
Onid yw’n deilwng?
Onid yw’n deilwng?
Hyd byth yn deilwng
Yr Oen ga’dd ei ladd.
Rhown i Ti’r gogoniant.
Rhown i Ti’r gogoniant.
Y cyfan o’n mawl
I’r Oen ga’dd ei ladd.
Rhown i Ti’r gogoniant,
Rhown i Ti’r gogoniant,
Y cyfan o’n mawl
I’r Oen ga’dd ei ladd.

Tag
Wele’r Oen a goncrodd Galfari.
Wele Oen ein Duw, ein gobaith ni.

Oen ein Duw
Lamb of God (David Funk, Jason Ingram, Matt Redman)
Cyfieithiad awdurdodedig Linda Lockley
Hawlfraint © 2022 (ac yn y cyfieithiad hwn)
Be Essential Songs / My Magnolia Music (Gwein. Essential Music Publishing LLC)
Integrity Worship Music / Said And Done Music (Gwein. Integrity Music Ltd)
Bethel Music Publishing / David Funk (Gwein. gan Song Solutions)
Defnyddir trwy ganiatâd. Cedwir pob hawl.
CCLI 7229403

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • March 5, 2025