(Iesu ei hun yn ddigon)
Gwyn a gwridog yw fy Arglwydd,
Gwyn a gwridog yw ei wedd;
Brenin y brenhinoedd ydyw
Yma a thu draw i’r bedd;
Mae dy degwch
Wedi’m hennill ar dy ôl.
Can’ ffarwél i bopeth arall,
‘Rwyt Ti’n ddigon mawr dy hun,
Derfydd nefoedd, derfydd daear,
Derfydd tegwch wyneb dyn:
‘R hwn a’th gaffo,
Caiff y cwbl oll yn un.
Paid â’m gadael yn yr anial
Dyrys, wrthyf fi fy hun;
Gwyddost Ti am fynych ofnau
A gwendidau natur dyn:
Dal dy afael;
Y mae’r gelyn mawr ger llaw.
Mae dy wedd yn drech na byddin
O elynion mawr eu grym;
Nid oes yn y nef a’r ddaear
Saif o flaen dy wyneb ddim:
Gair o’th enau
A wna’r dywyll nos yn ddydd.
William Williams, Pantycelyn
(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 473)
PowerPoint