Haleliwia!
Molwch Dduw yn ei deml sanctaidd,
Molwch ef yn yr awyr agored;
Molwch ef am wneud pethau nerthol,
Molwch ef am ei fod mor aruthrol fawr;
Molwch ef drwy ganu utgorn,
Molwch ef gyda’r nabl a’r delyn;
Molwch ef gyda drymiau a dawns,
Molwch ef gyda’r ffidil a’r ffliwt;
Molwch ef â sŵn symbalau,
Molwch ef gyda symbalau’n diasbedain.
Bydded i bopeth byw sydd ag anadl ynddo
foliannu’r Arglwydd!
Haleliwia!
(Grym Mawl 2: 18a)
Salm 150
PowerPoint