Pennill 1
Deffrwch, deffrwch, mae ’na reswm i ddathlu,
Maddeuant bob pechod yn enw’r Iesu.
Y groes, y groes, roedd dy waed di yn llifo,
Ond ar y trydydd diwrnod mi godaist ti eto.
Mae gen ti bŵer dros farwolaeth
Yno ti y mae ein gobaith.
Cytgan
Haleliwia, mae Crist yn fyw
Haleliwia, pob clod i Dduw
Haleliwia, fe ganwn ni
Haleliwia, Amen.
Pennill 2
Codwch, codwch, mae ‘na reswm i sefyll,
Mae’r gelyn wedi colli’r frwydr-
mae Crist wedi ennill!
Y bedd, y bedd, lle roedd ei
gorff ef yn gorwedd.
Y garreg wedi rolio i ffwrdd
i agor drws tragwyddoldeb.
Mae gen ti bŵer dros farwolaeth
Ynot ti y mae ein gobaith.
Cytgan
Haleliwia, mae Crist yn fyw
Haleliwia, pob clod i Dduw
Haleliwia, fe ganwn ni
Haleliwia, Amen.
Haleliwia, haleliwia, haleliwia, amen (x 4).
© Meilyr Geraint 2017 , Noiz Ministries
cordiau gitâr PowerPoint MP3