Haleliwia! Haleliwia! Haleliwia!
O’r ymdrech fawr ar Galfarî,
Dywysog Bywyd, daethost ti,
gan ymdaith mewn anfarwol fri:
Haleliwia!
Ni allai holl ddolurus gur
y goron ddrain a’r hoelion dur
wanychu grym dy gariad pur:
Haleliwia!
Gadewaist fröydd brenin braw
â phob awdurdod yn dy law,
hyd faith derfynau’r byd a ddaw:
Haleliwia!
Pyrth uffern gaeaist, Frenin nen,
a disglair byrth y wynfa wen
agoraist inni led y pen:
Haleliwia!
Angylion glân, ardderchog lu,
a ddaeth yn osgordd ar bob tu
i’th hebrwng i’r orseddfainc fry:
Haleliwia!
Dyrchafwn ninnau iddo nawr
glod am ei fuddugoliaeth fawr:
un gân fo’n llenwi nef a llawr:
Haleliwia!
ELFED, 1860-1953
(Caneuon Ffydd 559)
PowerPoint