Bob dydd a ddaw canaf gân o wir orfoledd
Rhoddaf foliant i ffynnon dyfroedd byw
Am ddatrys dryswch f’anobaith i
Arllwys tonnau trugaredd ar f’mywyd.
Ymddiriedaf yng nghroesbren fy Ngwaredwr,
Canu wnaf am y gwaed na fetha byth;
Am rodd maddeuant rhad, cydwybod lân,
Am ddiwedd angau, am fywyd am byth!
Harddaf Waredwr, ryfedd Gynghorwr,
Ddyrchafedig Un, Arglwydd hanes dyn,
Ti yw’r ffordd, O! Wir Fab Duw
Seren y bore, Disglair d’ogoniant,
Atgyfodaist Ti, Arwr nefoedd fry
Ar dy ben mae’r goron byth mwy.
Hiraeth sydd am ogoniant mawl diderfyn,
Am gael bod lle mae clod na wywa fyth
Lle cân aneirif lu un anthem fawr,
Gan floeddio ‘Teilwng’ wrth ganmol yr Oen.
Beautiful Saviour (All My Days): Stuart Townend, Cyfieithiad Awdurdodedig: Phil ac Angharad Ellis
© yn y cyfieithiad hwn 1998 Thankyou Music/gweinyddir gan CapitolCMGPublishing.com ac eithrio DU & Ewrop, gweinyddir gan Integrity Music, rhan o deulu David C Cook, songs@integritymusic.com